RWM yn croesawu cyhoeddi ‘Gweithgor’ cyntaf

, , Leave a comment

Bydd y Gweithgor nawr yn dechrau cynnal trafodaethau yn lleol ac yn canfod ffeithiau am leoli Cyfleuster Gwaredu Daearegol (GDF) yn Copeland.

Dywedodd Prif Weithredwr Radioactive Waste Management (RWM), Karen Wheeler:

Rwy’n falch iawn o glywed y newyddion heddiw ac yn edrych ymlaen at y cyfle i weithio gyda chymunedau yn Copeland drwy’r Gweithgor hwn. Y cyhoeddiad heddiw yw’r cam cyntaf tuag at ganfod cymuned barod a safle addas i ddatblygu gallu’r Deyrnas Unedig i waredu gwastraff uwch ei actifedd yn saff ac yn ddiogel.

Mae hwn yn brosiect hanfodol ar gyfer y Deyrnas Unedig ac ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol. Bydd adeiladu Cyfleuster Gwaredu Daearegol yn un o’r prosiectau diogelu’r amgylchedd mwyaf yn ystod ein hoes, ac yn un o’r prosiectau seilwaith mwyaf dros y ganrif nesaf. Bydd y cyfleoedd economaidd, cyflogaeth a buddsoddi a ddaw yn sgil y prosiect hwn wirioneddol yn trawsnewid y gymuned lwyddiannus. Bydd y prosiect yn creu cyfleoedd cyflogaeth ar raddfa fawr dros ddegawdau, ymhell i’r ganrif nesaf, yn ogystal â phosibiliadau mawr i fusnesau a’r gadwyn gyflenwi leol. Hefyd, mae’r Llywodraeth wedi ymrwymo i sicrhau bod buddsoddiad ychwanegol sylweddol ar gael i’r gymuned a fydd yn cael ei dewis i fod yn gartref i gyfleuster.

Megis dechrau ar y broses yw hyn, ac nid oes penderfyniad wedi cael ei wneud ynghylch lleoliad ar gyfer y Cyfleuster Gwaredu Daearegol. Rydyn ni’n gwybod bod cymunedau eraill yn dymuno ymchwilio i’r posibilrwydd hwn ar gyfer eu hardal, ac rwy’n disgwyl y bydd rhagor o gymunedau yn dangos diddordeb.

Bydd RWM, sy’n rhan o grŵp yr Awdurdod Datgomisiynu Niwclear (NDA), yn gweithio mewn partneriaeth â nifer o gymunedau ledled Cymru a Lloegr i archwilio sut gall Cyfleuster Gwaredu Daearegol yn eu hardal ddarparu buddion economaidd a chyflogaeth hirdymor a chwarae rhan fawr yn eu cynlluniau datblygu.

Mae’r gwaith chwilio am safle addas a chymuned sy’n barod i fod yn gartref i’r cyfleuster hwn yn broses sy’n digwydd ledled Cymru a Lloegr, yn seiliedig ar gydsyniad y gymuned. Bydd y broses yn cynnwys ymchwiliadau manwl i sicrhau bod safle addas ar gyfer adeiladu Cyfleuster Gwaredu Daearegol saff a diogel. Os na fydd RWM a’r rheoleiddwyr annibynnol yn cytuno bod modd dylunio, adeiladu a gweithredu Cyfleuster Gwaredu Daearegol yn saff a diogel mewn lleoliad, yna ni fydd yn cael ei adeiladu.

Byddai Cyfleuster Gwaredu Daearegol yn cynnwys claddgelloedd sydd wedi’u hadeiladu i lefel beirianegol yn ddwfn o dan y ddaear, a fydd wedi’u dylunio i ddiogelu’r amgylchedd a chadw gwastraff ymbelydrol yn saff ac yn ddiogel wrth i’r ymbelydredd ddadfeilio i lefelau diogel. Mae’r naill Lywodraeth ar ôl y llall yn y Deyrnas Unedig, ar sail cyngor gwyddonol, yn cytuno mai dyma’r ateb iawn yn yr hirdymor ar gyfer gwastraff ymbelydrol uwch ei actifedd. Mae nifer helaeth o wledydd ar draws y byd yn cytuno hefyd, gyda rhaglenni tebyg bellach ar y gweill mewn gwledydd fel Canada, y Ffindir, Ffrainc, Sweden a’r Swistir.

Gwybodaeth am y Gweithgor a’r broses o leoli Cyfleuster Gwaredu Daearegol

Mae’r Gweithgor yn Copeland yn cynnwys unigolion a sefydliadau sydd wedi gofyn i RWM ystyried a ellid lleoli Cyfleuster Gwaredu Daearegol yn yr ardal. Mae’r aelodau yn cynnwys Cadeirydd annibynnol, hwylusydd annibynnol, RWM ac eraill, fel Awdurdodau Lleol yr ardal. Bydd Cyngor Bwrdeistref Copeland yn ymuno â’r Gweithgor pan fydd yn cael ei lansio. Bydd y grŵp yn dechrau cynnal trafodaethau yn lleol ac yn canfod ffeithiau yn y gymuned.

Cam cyntaf mewn proses a fydd yn para nifer o flynyddoedd yw sefydlu Gweithgor. Nid yw hyn yn golygu y bydd Cyfleuster Gwaredu Daearegol yn cael ei adeiladu yn y lleoliad hwnnw. Bydd y Gweithgor yn canfod ac yn cynnig Ardal Chwilio i’w hystyried ymhellach wrth chwilio am safleoedd addas posib, yn ymgynghori â dinasyddion yn y gymuned er mwyn deall eu barn, ac yn recriwtio aelodau cyntaf Partneriaeth Gymunedol â RWM a allai fwrw ymlaen â’r broses ymhellach. Byddai gofyn i Bartneriaeth Gymunedol gynnwys o leiaf un Prif Awdurdod Lleol perthnasol (ee awdurdod unedol, sir neu ddosbarth) o’r Ardal Chwilio.

Bydd yr ardal ddaearyddol i’w thrafod yn cynnwys bwrdeistref Copeland i gyd i ddechrau, ond ni fyddai’n cynnwys Parc Cenedlaethol Ardal y Llynnoedd. Bydd posibilrwydd cyfleusterau tanddaearol oddi ar yr arfordir, y gellid mynd atynt o’r tir, yn cael ei ystyried hefyd.

Bydd sefydlu’r Bartneriaeth Gymunedol ar gyfer y tymor hwy yn arwain at gyllid buddsoddi cymunedol gwerth £1 miliwn y flwyddyn ar unwaith, a fydd ar gael ar gyfer prosiectau a mentrau sy’n arwain at ddatblygu economi’r ardal, yn gwella’r amgylchedd lleol, neu’n gwella lles y gymuned.

Bydd y ffigur hwn yn codi i £2.5 miliwn y flwyddyn os bydd ymchwiliadau tyllau turio dwfn yn cael eu cynnal. Ond, y fantais fawr yw sut gallai Cyfleuster Gwaredu Daearegol helpu cymuned i gael gweledigaeth hirdymor iawn. Felly, un o brif dasgau’r Bartneriaeth Gymunedol fydd datblygu’r weledigaeth honno. Gallai’r weledigaeth fod yn sail ar gyfer buddsoddiad ychwanegol sylweddol yn y gymuned honno a fydd yn llwyddo i fod yn gartref i’r cyfleuster yn y dyfodol.

Mae’n bosib i’r Prif Awdurdodau Lleol perthnasol yn y Bartneriaeth Gymunedol gytuno i dynnu’r gymuned yn ôl unrhyw bryd. Pan fyddant yn barod, bydd y Prif Awdurdodau Lleol perthnasol yn y Bartneriaeth Gymunedol yn penderfynu ar amserlen ar gyfer ceisio cytundeb y gymuned gyfan drwy Brawf clir o Gefnogaeth y Cyhoedd (ee refferendwm lleol, ymgynghoriad ffurfiol, neu bleidleisio cynrychioliadol ystadegol).

Dysgu mwy am warediad daearegol

Neu, i gael mwy o wybodaeth, ewch i wefan Working In Partnership.

Revision History:

 

Leave a Reply